terça-feira, 31 de janeiro de 2012

Doler yr Unol Daleithiau

Doler yr Unol Daleithiau yw arian breiniol Unol Daleithiau America; mae hefyd yn arian breiniol mewn rhai gwledydd eraill. Fe'i dynodir gan y symbol $. Caiff ei rhannu yn 100 sent.
Mabwysiadwyd y ddoler gan Gyngres yr Unol Daleithiau ar 6 Gorffennaf 1785. Doler yr Unol Daleithiau yw'r arian a ddefnyddir gan amlaf ar gyfer masnachu a symud arian rhwng gwledydd, er fod poblogrwydd yr ewro yn cynyddu. Yn 1995, roedd dros $380 biliwn mewn cylchrediad, ac erbyn 2005 roedd wedi cynyddu i bron $760 biliwn. Fodd bynnag, yn Rhagfyr 2006 roedd gwerth €695 biliwn o'r ewro mewn cylchrediad, yn cyfateb i tua US$1,029 biliwn.

Nenhum comentário:

Postar um comentário